Suo Gan

Suo Gan

Suo gan

4 -4    5   6  -4 4   5  -4  4   -4  5    6  -4 5   4
Hu-na blen-tyn yn fy myn-wes Clyd a chyn-nes yd-yw hon;

4      -4   5   6    -4   4 5  -4  4    -4 5    6 -4   5  4
Brei-chiau mam sy'n dynn am-da-nat,Car-iad mam sy dan fy mron;

5  -5    6   5 -6   -5  6   5   5 -5   6  5  7  -6  6
Ni cha' dim am-haru'th gyn-tun,Ni wna un-dyn â thi gam;

4   -4   5 6     -4  4   5    -4  4  -4    5  6   -4   5  4
Hu-na'n da-wel, ann-wyl blen-tyn,Hu-na'n fwyn ar fron dy fam.



    Huna'n dawel, heno, huna,
    Huna'n fwyn, y tlws ei lun;
    Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
    Gwenu'n dirion yn dy hun?
    Ai angylion fry sy'n gwenu,
    Arnat ti yn gwenu'n llon,
    Tithau'n gwenu'n ôl dan huno,
    Huno'n dawel ar fy mron?

    Paid ag ofni, dim ond deilen
    Gura, gura ar y ddôr;
    Paid ag ofni, ton fach unig
    Sua, sua ar lan y môr;
    Huna blentyn, nid oes yma
    Ddim i roddi iti fraw;
    Gwena'n dawel yn fy mynwes
    Ar yr engyl gwynion draw.
Жанр: Фолк
Тип гармошки: Хроматическая
Сложность: Для начинающих
Ключ гармошки: E

Добавить комментарий